What is Fair Saturday and how can I get involved?
Fair Saturday is a global movement founded in Bilbao. It is a celebration of the power of the arts, culture and heritage to change the world and create a more just society.
Fair Saturday is a day when we can all show the world what we are made of and what we can build together.
Fair Saturday claims the essential power of culture and empathy to create and celebrate the world we want to live in.
Fair Saturday is the day after Black Friday.
What is Fair Saturday Cardiff?
Cardiff has officially joined the Fair Saturday movement. The city is now part of a global network of cities and communities stretching from Lima in Peru to Lisbon in Portugal that publicly proclaims our belief in social justice and celebrates the power of culture to create the world we want to live in.
November 30th 2019 is the first Fair Saturday Cardiff.
How can I get involved?
- Save the date
- Create an event for (or include your planned event) in the Fair Saturday Festival by registering your event at fairsaturday.org and letting the Cardiff Steering Group know what you are planning (see attached form). This is so that your event is included in the official programme and city event map and covered within the media and social media platforms.The event could be any kind of cultural activity:A performance | An exhibition | A workshop | A concert| A poetry reading | A film screening | A dance off | A club night | A fashion show | An artists’ open studio
Whatever it is that you do or have always wanted to do.
You don’t have to be a professional to be involved. This is an opportunity for everyone to celebrate their own creativity and cultural identity and for all the voices of Cardiff to be heard and celebrated together.
- Chose a charity or community organisation that you want to support and decide how you want to support them and celebrate the contribution they make to our communities and city. This could be:
-
-
- Giving them a platform at your event to explain what they do and the difference they make
- Fundraising for them during the event itself
- Giving them free tickets for your event
- Involving them in planning, creating, staging, the event
- Something else even more appropriate and valuable
You decide.
-
- After the event is over fill in the very short feedback form so the Fair Saturday Foundation and Fair Saturday Cardiff can record the range and impact of everything we have done
- Join us at the Fair Saturday Cardiff Party
Who are the Cardiff Fair Saturday Steering Group?
We are a group of people from across the city who have come together to help make Fair Saturday happen and support everyone who wants to be involved.
We do not decide what happens.
We can help and support you and raise the profile of your event through an overall city wide marketing campaign, help you with the practicalities of running an event (if you need it), and we liaise with the Fair Saturday Foundation to help raise the profile of Cardiff within the global family of Fair Saturday cities.
The Steering Group are: Stephanie Bolt (Creative Common), Chris Brown (g39), Heather Brown (Cardiff City Council), Cllr Jennifer Burke- Davies (Cardiff City Council), Ruth Cayford (Cardiff City Council), Ian Cooke Tapia (Ffangaí), Laura Drane (Independent), Ruth Garnault (Independent), Matt Gough (University of South Wales), Rebecca Gould (British Council Cymru), Julia Harris (The Sustainable Studio), Cllr Jane Henshaw (Cardiff City Council), Sereen Kutubi (Cardiff Third Sector Council), Bethan Lewis (British Council Cymru), Lee Lyford (Theatr Iolo), Keith Murre (Butetown Carnival), Yvonne Murphy (Omidaze), Victoria Rogers (the Museum of Cardiff), Pip Tudor (Made in Roath), Rhiannon White (Common Wealth), Cllr Peter Wong (Cardiff City Council), Alison Woods (NoFit State).
If you would like more information please go to www.fairsaturday.org or email events@cardiff.gov.uk
Beth yw Dydd Sadwrn Teg a sut gallaf fod yn rhan ohono?
Mae Dydd Sadwrn Teg yn fudiad byd-eang a ddechreuodd yn Bilbao. Mae’n dathlu pŵer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i newid y byd a chreu cymdeithas fwy cyfiawn.
Mae Dydd Sadwrn Teg yn ddiwrnod pan allwn ni ddangos i’r byd pwy ydyn ni yn ein hanfod a’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd.
Mae Dydd Sadwrn Teg yn defnyddio grym hanfodol diwylliant ac empathi i greu a dathlu’r byd rydyn ni am fod yn rhan ohono.
Mae Dydd Sadwrn Teg ddiwrnod ar ôl Dydd Gwener y Gwario Gwirion.
Beth yw Dydd Sadwrn Teg Caerdydd?
Mae Caerdydd wedi ymuno’n swyddogol â’r mudiad Dydd Sadwrn Teg. Mae’r ddinas nawr yn rhan o rwydwaith byd-eang o ddinasoedd a chymunedau, o Lima ym Mheriw i Lisbon ym Mhortiwgal, sy’n datgan yn gyhoeddus ein cred mewn cyfiawnder cymdeithasol ac yn dathlu pŵer diwylliant i greu’r byd rydym am fyw ynddo.
Bydd Dydd Sadwrn Teg cyntaf Caerdydd ar 30 Tachwedd 2019.
Sut gallaf i fod yn rhan ohono?
1. Cofio’r dyddiad
2. Creu digwyddiad yn yr Ŵyl Dydd Sadwrn Teg (neu roi digwyddiad sydd eisoes ar y gweill dan faner yr ŵyl) drwy gofrestru’r digwyddiad yn www.fairsaturday.org a rhoi gwybod i Grŵp Llywio Caerdydd eich cynlluniau (gweler y ffurflen sydd wedi ei hatodi). Bydd hyn yn sicrhau bod eich digwyddiad yn cael ei gynnwys yn y rhaglen swyddogol a map digwyddiadau’r ddinas, ac yn cael sylw ar blatfformau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol.
Gall y digwyddiad fod yn un diwylliannol o unrhyw fath:
Perfformiad | Arddangosfa | Gweithdy | Cyngerdd | Perfformiad barddoniaeth | Dangosiad ffilm | Cystadleuaeth ddawns | Noson glwb | Sioe ffasiwn
Stiwdio agored gan artist
Beth bynnag rydych chi’n ei wneud neu wastad wedi dymuno gallu ei wneud.
Does dim rhaid bod yn ymarferydd proffesiynol i gymryd rhan. Mae hwn yn gyfle i bawb ddathlu ei greadigrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol ei hun, ac i holl leisiau Caerdydd gael eu clywed.
3. Dewis elusen neu sefydliad cymunedol yr hoffech eu cefnogi a phenderfynu pa gymorth y gallwch ei roi iddynt a sut rydych am ddathlu’r cyfraniad maen nhw’n ei wneud i’r gymuned a’r ddinas. Gallech:
• Rhoi platfform iddynt yn eich digwyddiad i esbonio’r hyn maen nhw’n ei wneud a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud
• Codi arian iddynt yn ystod y digwyddiad ei hun
• Rhoi tocynnau am ddim i’r digwyddiad iddyn nhw
• Eu cynnwys mewn gwaith cynllunio, creu neu lwyfannu’r digwyddiad
• Unrhyw beth arall gwerthfawr a phriodol
Chi sy’n penderfynu.
4. Ar ôl y digwyddiad, cwblhau ffurflen adborth fer iawn er mwyn i’r Sefydliad Dydd Sadwrn Teg a Dydd Sadwrn Teg Caerdydd gofnodi ystod ac effaith y cyfan sydd wedi digwydd.
5. Ymunwch â ni ym Mharti Dydd Sadwrn Teg Caerdydd
Pwy yw Grŵp Llywio Dydd Sadwrn Teg Caerdydd?
Rydym yn grŵp o bobl o bob rhan o’r ddinas sydd wedi dod ynghyd i helpu i gynnal Dydd Sadwrn Teg Caerdydd a bod yn gefn i bawb sydd am fod yn rhan ohono.
Nid ni sy’n penderfynu beth sy’n digwydd.
Gallwn eich helpu a’ch cefnogi chi a chodi proffil eich digwyddiad drwy ymgyrch farchnata drwy’r ddinas gyfan, eich helpu gyda’r pethau ymarferol sydd angen eu gwneud i gynnal digwyddiad (os oes angen help arnoch), ac rydym yn cydgysylltu gyda Sefydliad Dydd Sadwrn Teg i helpu i godi proffil Caerdydd ymhlith teulu dinasoedd Dydd Sadwrn Teg.
Dyddiad Cau Cofrestru – 15ed Hydref 2019
Dyma aelodau’r Grŵp Llywio: Stephanie Bolt (Creative Common), Chris Brown (g39), Heather Brown (Cyngor Dinas Caerdydd), y Cynghorydd Jennifer Burke- Davies (Cyngor Dinas Caerdydd), Ruth Cayford (Cyngor Dinas Caerdydd), Ian Cooke Tapia (Ffangaí), Laura Drane (Annibynnol), Ruth Garnault (Annibynnol), Matt Gough (Prifysgol De Cymru), Rebecca Gould (Cyngor Prydeinig Cymru), Julia Harris (The Sustainable Studio), Y Cynghorydd Jane Henshaw (Cyngor Dinas Caerdydd), Sereen Kutubi (Cyngor Trydydd Sector Caerdydd), Bethan Lewis (Cyngor Prydeinig Cymru), Lee Lyford (Theatr Iolo), Keith Murre (Carnifal Butetown), Yvonne Murphy (Omidaze), Victoria Rogers (Amgueddfa Caerdydd), Pip Tudor (Made in Roath), Rhiannon White (Common Wealth), y Cynghorydd Peter Wong (Cyngor Dinas Caerdydd), Alison Woods (NoFit State).
Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i www.fairsaturday.org neu e-bostiwch digwyddiadau@caerdydd.gov.uk
Programme

English
Fair Saturday
Cymraeg
Fair SaturdayTools
